Fel mae llawer yn gwybod erbyn nawr, dwi wedi bod yn dioddef o iselder a gorbryder ers roeddwn i’n 16 oed, a dwi bellach yn 23… felly sawl blwyddyn erbyn hyn. Dwi wedi trio ambell i beth er mwyn helpu ymdopi, meddyginiaeth, sesiynau cwnsela a llawer mwy. Ond, y peth sydd wedi fy helpu i fwyaf dros y blynyddoedd yw rhedeg. Mae wythnos yma yn wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, a’r thema eleni yw symud er lles eich iechyd meddwl. Felly roedd rhaid fi sgwennu blog fach ar y pwnc…
Pedair blynedd yn nol dechreuais yn y brifysgol yn Abertawe, a dyna pryd mewn gwirionedd dechreuais i redeg… Roedd covid dal o gwmpas, ac roeddwn i dal yn cael cyfnodau gwael iawn gyda fy iechyd meddwl ac roedd gen i lawer o amser rhydd, felly es i allan am run fel fy ‘un dro’r diwrnod’ un dydd – a dwi heb edrych nôl ers hynny.
Roedd teimlo’r buddion corfforol yn ogystal â’r buddion meddyliol yn gwneud i mi eisiau mynd i redeg eto ac eto – oni’n byzzian oddi ar y ‘runners high’!! Daeth rhedeg yn dechneg ymdopi i mi drwy gydol fy nghyfnod ym mhrifysgol Abertawe felly, ac mae wedi parhau wrth i mi droedio mewn i fywyd gwaith. Os dwi’n teimlo’n ‘stressed’ rwy’n rhedeg, teimlo’n bryderus … rhedeg, fy mhen ar chwâl… ie you get it, rhedeg!

Nes i gychwyn rhedeg Parkun ar foreau Sadwrn gyda rhai o’m ffrindiau coleg a dechreuais i fwynhau’r elfen Gymdeithasol i redeg hefyd… O hynny, penderfynais seinio fyny ar gyfer ras 10km Abertawe, hwnnw oedd fy ras gyntaf… ac o fanno dwi wedi bod yn teimlo’r ‘byzz’ hyd yn oed mwy. Roedd rhedeg yn rhoi strwythur i’m diwrnod i ac yn rhoi rhywbeth i’w anelu tuag ato – ac ie roedd rhedeg rasys yn gwneud i mi deimlo’n ffantastig hefyd!!

Es i ‘mlaen i redeg mwy o rasys, ambell i hanner marathon… ac roeddwn i’n lwcus iawn bod gen i ai ffrindiau syn mwynhau rhedeg hefyd, felly cyfle gwych i gymdeithasu. Yn ogystal, dwi bellach wedi ymuno a chlwb rhedeg sy’n gymdeithasol iawn a’n ffordd grêt o ddod i adnabod pobl sydd a’r un diddordebau a mi, yn hytrach na mynd allan i yfed drwy’r amser…

Eleni, penderfynais roi nod enfawr i fy hunan o redeg marathon. Roedd y broses o ymarfer ar gyfer y ras yn un hynod anodd yn feddyliol a’n gorfforol. Dysgais lawer am fy hunan fel unigolyn, ac roedd dyfalbarhau yn elfen bwysig iawn iawn o’r broses. Bydde Elen 16 oed byth wedi dychmygu y bydde hin rhedeg marathon yn 23… ac mae gallu profi dy hunan a’r bobl o dy gwmpas yn anghywir yn deimlad mor anhygoel…

Mae rhedeg wirioneddol wedi newid fy mywyd i. Mae’n rhoi pwrpas i fy niwrnodau i ac yn gwneud i mi deimlo’n anhygoel !! Doeddwn i ddim yn coelio pan ddwedodd rhywun wrtha’i: “gwylia tan pan gei di’r byg”, Ac maen nhw’n wir, gallai byth ddychmygu fy mywyd heb redeg!



